Clwb Chwaraeon

Mae’r clwb yn hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon ar gyfer pentref Nannerch ac yn annog pawb i fanteisio ar yr amryw o gyfleusterau sydd ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys cae chwaraeon a rennir (gydag Ysgol Nannerch) ac ardal aml-gemau ar gyfer tenis, peldroed pump bob ochr a phêl-rwyd. Mae hefyd yn gweithredu ac yn cynnal y grîn fowlio a’r piste boules.
Trwy gydol misoedd y Gwanwyn a’r Haf, mae nosweithiau clwb wythnosol ar gyfer chwarae tenis a bowls. Mae’r clwb yn cynnal diwrnod hwyl blynyddol, sy’n cynnwys ras ffordd 5k boblogaidd iawn yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau a chystadlaethau hwyliog ar y cae chwaraeon.
Y tanysgrifiadau aelodaeth blynyddol ar gyfer 2020 yw:
- Aelodaeth teulu: £30
- Aelodaeth unigol: £20
- Aelodaeth dim chwarae: £10
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Jones ar 07531 946945