Cylch Chwarae Dan 5 oed
Mae cylch chwarae Nannerch dan 5 oed yn darparu dau grŵp ar gyfer plant cyn oed ysgol:
- Mae’r grŵp babanod a phlant bach yn gyfle i rieni a’u rhai bach gymdeithasu â rhieni a phlant eraill o’r ardal. Maent yn cwrdd rhwng 9: 15-11: 30 ar fore Gwener ond gwell checio gyda Daria ar 07818 597711 i gadarnhau.
- Mae’r cylch chwarae yn darparu addysg gyn-ysgol mewn lleoliad diogel a strwythuredig i blant 2-4 oed. Wedi’i gofrestru’n llawn gyda CIW, mae’r cylch chwarae yn galluogi dysgu trwy chwarae mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol. Gyda chysylltiadau cryf ac Ysgol Nannerch, mae staff hefyd yn darparu hebrwng am ddim yn yr ysgol i’r plant hynny sy’n mynychu dosbarth meithrin prynhawn (ar gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 3 oed). Ar fore Llun a Mercher 9: 00-11: 30 gyda chlwb cinio 11: 30-12: 30.
Am ragor o wybodaeth gweler tudalen Facebook Nannerch Under 5s neu cysylltwch â ni trwy e-bost: Sarah.nannerchunder5s@hotmail.co.uk neu trwy ffonio 01352 721170.
