Tafarn y Cross Foxes

Dipyn o hanes
Adeiladwyd Tafarn y Cross Foxes gan y teulu Williams, perchnogion ystâd Penbedw o’r 18fed ganrif. Roedd yn gwasanaethu nid yn unig fel tafarn, ond hefyd fel cigydd – mae’r bachau cig hynafol yn dal i fod yn bresennol uwchben y bar. Gwasanaethodd y dafarn fel swyddfa bost tan ganol y 1990au, pan symudodd y gwasanaeth i’r Neuadd Goffa.
Mae Janet a Tim wedi rheoli’r dafarn ers mis Ionawr 2013 a byddent wrth eu bodd eich gweld yn y Cross Foxes. Fel rheol mae o leiaf dau gwrw ar ddrafft yn ogystal a dewis da o lagers, seidr a diodydd potel ac alcoholig – mae’r gin riwbob lleol yn ffefryn arbennig! Gallwch ymlacio wrth ymyl un o’r ddau dân glo neu gymysgu â’r bobl leol – fel arfer mae rhywun i mewn am sgwrs a pheint!
Mae’r Cross Foxes yn “freehouse” ac yn dafarn bentref gwreiddiol. Mae ar agor bob dydd o 6pm (ac eithrio dydd Llun) ac o ganol dydd ar ddydd Sul. Gallwch ddewis rhwng y bar (sydd hefyd yn croesawu cŵn), y bar canol (ar gyfer awyrgylch mwy agos) neu’r lolfa (am noson dawelach, fwy hamddenol).
Bwydydd
Mae bwyd fel arfer yn cael ei weini nos Fercher, Iau, Gwener a Sadwrn – mae yna fwydlen amrywiol a bwrdd arbennig sy’n newid yn wythnosol – mae rhywbeth at ddant pawb.
Cinio Dydd Sul
Gweinir cinio dydd Sul rhwng 1pm a 3.45pm. Mae’r cig bob amser yn cael ei gynhyrchu’n lleol ac mae rhostiau a phanas Janet yn ddigon i dynnu dŵr o’ch dannedd ! Mae cinio dydd Sul yn costio £9.95 ar gyfer un cwrs, £12.95 ar gyfer dau gwrs a £15 ar gyfer tri, gyda’r pwdin taffi gludiog yn cael ei argymell yn gryf. Fe’ch cynghorir i archebu lle o flaen llaw.
I archebu neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol, ffoniwch 01352 741464 neu 07745 082197.
Sut i Ddod o hyd i ni
The Cross Foxes, Village Road, Nannerch, CH7 5RF